Ynglŷn â'r Hyfforddiant

Mae’n bryd cofrestru ar gyfer un diwrnod o'n Hyfforddiant Diweddaru ar gyfer 2025.

  • Dydd Mawrth 17 Mehefin:  Stadiwm Swansea.com 
  • Dydd Mercher 18 Mehefin:  Stadiwm Swansea.com
  • Dydd Mawrth 24 Mehefin:  Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Campws Cyncoed)
  • Dydd Mercher 25 Mehefin:  Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Campws Cyncoed)
  • Dydd Iau 26 Mehefin:  Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Campws Cyncoed)
  • Dydd Mawrth 1 Gorffennaf:  Venue Cymru, Llandudno
  • Dydd Mercher 2 Gorffennaf:  Venue Cymru, Llandudno

Bydd yr hyfforddiant hanfodol hwn yn eich diweddaru ar ein prosesau arolygu. Mae lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail cyntaf i'r felin, felly cofrestrwch cyn gynted â phosibl i fynychu yn eich lleoliad dewisol.

Disgwylir i arolygwyr i fynychu Hyfforddiant Diweddaru yn flynyddol. Fodd bynnag, mae’n orfodol fynychu o leiaf bob 2 flynedd.  Os na fyddwch yn mynychu am 2 flynedd yn olynol, yn anffodus byddwch yn cael eich tynnu oddi ar ein rhestr o arolygwyr. Ni fydd dyddiadau ychwanegol ar gyfer yr hyfforddiant hwn – y cyfle nesaf i fynychu fydd haf 2026.

Bydd yr hyfforddiant yn cychwyn am 09:00 a gorffen am 15:30.


Dyddiadau cau cofrestru:

  • Stadiwm Swansea.com:  canol dydd, dydd Llun 9 Mehefin   AR GAU
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Venue Cymru:  canol dydd, dydd Llun 16 Mehefin

Sylwer

Pan fyddwch yn cofrestru, bydd angen i chi sefydlu cyfrinair sy'n unigryw i'r digwyddiad hwn.  Os oes angen i chi newid eich archeb bydd angen y cyfrinair hwn arnoch, felly cadwch ef yn ddiogel. Os hoffech ganslo eich archeb ebostiwch digwyddiadau@estyn.llyw.cymru fel bod modd ailagor eich lle.

Os ydych chi wedi dynodi i arolygu mwy nag un sector rydych chi wedi derbyn gwahoddiad i'r prif sector ar eich Proffill Arolygydd.  Os ydych chi'n meddwl y dylech mynychu hyfforddiant ar gyfer sector gwahanol, cysyllwch â digwyddiadau@estyn.llyw.cymru

Mae'r Hyfforddiant Diweddaru haf 2025 ar gyfer Arolygwyr Cymheiriaid, Lleyg ac Ychwanegol yn unig.  Bydd Hyfforddiant Diweddaru pwrpasol yn yr hydref ar gyfer Arolygwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Ni ddylai Arolygwyr ADY sydd heb hyfforddi fel Arolygwyr Cymheiriaid fynychu yn yr haf. Fodd bynnag, dylai unrhyw un sydd wedi hyfforddi fel Arolygydd Cymheiriaid ac fel Arolygydd ADY fynychu ar gyfer eu sector.

Rhaid bod gennych tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwhardd (DBS) cyfredol adeg yr hyfforddiant er mwyn mynychu. Os yw eich tystysgrif yn dod i ben yn fuan, cysylltwch â dbschecks@estyn.llyw.cymru i gael gwybodaeth am ddechrau'r broses adnewyddu.


Manylion Lleoliadau

Gallwch dod o hyd i gyfarwyddiadau i'r lleoliadau ar wefannau'r lleoliadau:

Stadiwm Swansea.com

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Venue Cymru

Cwestiynau Cyffredin

Oes rhaid i mi fynychu yr hyfforddiant diweddaru hon?

Disgwylir i arolygwyr fynychu Hyfforddiant Diweddaru yn flynyddol. Fodd bynnag, mae’n orfodol fynychu o leiaf bob 2 flynedd. Os na fyddwch yn mynychu am 2 flynedd yn olynol ni fyddwn yn gallu eich lleoli a byddwn yn eich tynnu oddi ar ein rhestr o arolygwyr.

A fydd unrhyw dyddiadau eraill?

Ni fydd dyddiadau ychwanegol yn hwyrach eleni nac yn ystod gwanwyn 2026. Y cyfle nesaf i fynychu Hyfforddiant Diweddaru Blynyddol fydd yn ystod tymor yr haf 2026.

Oes angen fynychu os cefais Hyfforddiant yn y gwanwyn?

Os cawsoch Hyfforddiant Cychwynnol  neu Hyfforddiant Diweddaru yn nhymor y gwanwyn bydd dal angen i chi fynychu Hyfforddiant Diweddaru yr haf hwn. 

Beth sy'n digwydd os nad allaf fynychu?

Dylech e-bostio'r Tîm Digwyddiadau i egluro pam na allwch fynychu.

Rydw i wedi derbyn gwahoddiad i’r hyfforddiant ar gyfer mwy nag un sector – oes rhaid i mi fynd i bob un ohonynt?

Nac oes – gallwch chi archebu lle ar yr hyfforddiant ar gyfer y sector rydych chi’n ei arolygu amlaf.

A allaf hawlio treuliau am fynychu'r digwyddiad?

Nid ydym yn ad-dalu treuliau ar gyfer y math yma o ddigwyddiad. Bydd angen i chi dalu am eich costau teithio a chynhaliaeth eich hun.

Dydw i ddim yn gallu gweld fy newis dyddiad hyfforddiant ar y dudalen gofrestru.

Os na allwch chi weld dyddiad neu leoliad penodol ar y gwymplen archebu, yna mae’r lleoliad hwnnw’n llawn. Nid ydym yn gweithredu rhestr gadw, felly rydym yn argymell gwirio’r dudalen yn rheolaidd os oes lle wedi dod ar gael.

A allwch chi gofrestru ar fy rhan?

Oni bai bod amgylchiadau eithriadol, dydyn ni ddim yn cofrestru ar eich rhan – mae hyn oherwydd bod angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol fel rhan o’r broses gofrestru, er enghraifft unrhyw ofynion dietegol neu hygyrchedd sydd gennych chi.

A oes cod gwisg?

Gwisgwch yr hyn y byddech fel arfer yn ei wisgo i’ch ysgol neu UCD.

Beth os ydw i ar fin ymddeuol neu wedi symud darparwr?

Sicrhewch bod eich Proffil Arolygydd yn gyfredol. Os ydych chi wedi symud darparwr, mae’n rhaid i chi rhoi gwybod i ni a bydd angen cymeradwyaeth newydd arnoch.  Os ydych chi ar fin neu wedi ymddeol, bydd angen i chi hyfforddi fel AY os ydych yn dymuno parhau i weithio fel Arolygydd. 

Newid statws Arolygydd Cymheiriaid i Arolygydd Ychwanegol.

Os dymunwch newid eich statws arolygydd o Arolygydd Cymheiriaid i Arolygydd Ychwanegol, er enghraifft ar ôl ymddeol, bydd angen i chi cyflwyno cais i cynllunio@estyn.llyw.cymru. I fod yn gymwys, mae'n rhaid bod chi wedi cwblhau o leiaf un arolygiad llwyddiannus (gradd A neu B) o fewn y 2 flynedd flaenorol.

Nid wyf am fod yn Arolygydd Cymeiriaid rhagor.

Os nad ydych yn dymuno bod yn arolygydd mwyach, byddem yn ddiolchgar pe baech yn anfon e-bost at cynllunio@estyn.llyw.cymru fel y gallwn wneud trefniadau i'ch tynnu oddi ar ein rhestr a recriwtio yn eich lle.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â'r tîm Digwyddiadau: digwyddiadau@estyn.llyw.cymru, 02920 446510 

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Rhoddir blaenoriaeth gyfartal i ohebiaeth a dderbynnir yn y naill iaith neu'r llall. Bydd Estyn yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu i drefnu a llywio'r hyfforddiant hwn yn unig a bydd yn ei chadw yn unol â'n polisi cadw.